Hafan > Gwybodaeth > Presenoldeb
Presenoldeb
Ein gobeithion
- Bod pob plentyn yn dod i’r ysgol bob dydd.
- Bod pob plentyn yn cael y cyfle i ddysgu a llwyddo bob dydd.
- Bod chi a’ch plentyn yn gwneud y mwyaf o bob cyfle yn yr ysgol drwy’r dydd, bob dydd.
- Bod pob plentyn yn mwyn-hau dod i’r ysgol bob dydd.
Rydym yn awyddus fel ysgol i godi lefelau presenoldeb, eich targed fel teulu ydi 95% ac i ni fel ysgol hefyd.
Eich cyfrifoldeb chi yw:
- Sicrhau fod eich plentyn yn dod i’r ysgol bob dydd oni bai eu bod yn sâl.
- Rhoi gwybodaeth i’r ysgol am unrhyw absenoldeb cyn gynted ag sydd bosibl cyn 9:30yb-ffonio, gadael neges neu ebostio.
- Sicrhau bod eich plentyn yn yr ysgol ar amser - Clwb Brecwast yn cychwyn am 8:00yb gyda mynediad olaf am 8:40 yb / drysau ysgol yn agor am 8.50yb / gwersi yn cychwyn am 9:00yb.
- Sicrhau (os yn briodol) eich bod yn dod i nôl eich plant ar amser - 3:00/ 3:10yh—cysylltwch gyda’r ysgol os ydych yn rhedeg yn hwyr os gwelwch yn dda.
Dyma rhai cwestiynau sydd yn codi ar adegau:
- Ydi hi’n bwysig i ni dderbyn eglurhad am bob absenoldeb?
YDI - Ydi hi’n iawn i mi fynd â fy mhlentyn at y meddyg/deintydd yn ystod oriau ysgol
YDI - ond ceisiwch drefnu y tu allan i oriau ysgol lle bo hynny’n bosibl - Ydi hi’n iawn i’r plant fynd ar wyliau yn ystod tymor yr ysgol?
YDI - OND! Dim ond am 10 diwrnod yn ystod y flwyddyn ysgol gyda chaniatâd gan y Pennaeth/Llywodraethwyr mis o flaen llaw (rhaid i bresenoldeb fod yn 95% neu’n uwch i fod yn awdurdodedig). Bydd angen cwblhau ffurflen gwyliau. Os cymerwch fwy na 10 neu mae presenoldeb yn is na 95%, bydd y dyddiau yn cael eu cofnodi fel absenoldeb anawdurdodedig. Co-fiwch! Mae pob diwrnod ysgol yn cyfri. Mae’r ysgol yn argymell yn gryf i chi beidio â chymryd eich plentyn allan o’r ysgol yn ystod y tymor. Un cais am wyliau a ganiateir mewn blwyddyn yn unig. - Ydi hi’n iawn i mi fynd â’r plant i siopa, torri gwallt, prynu esgidiau newydd, edrych ar ôl brawd/chwaer yn ystod oriau ysgol?
NAC YDI
EICH CYFRIFOLDEB CHI FEL RHIANT/GWARCHEIDWAD, AC NID Y PLENTYN YW SICRHAU FOD HYN YN DIGWYDD
Os bydd eich plentyn yn absennol yn aml heb reswm nac eglurhad:
- Yn y lle cyntaf fe fydd yr ysgol yn cysylltu hefo chi - galwad ffôn, ebost neu lythyr
- Yr ail gam fydd– bydd y Swyddog Lles Addysg yn cysylltu: llythyru neu ymweld â’ch cartref i geisio eich helpu i ddatrys y broblem.
Presenoldeb
Presenoldeb da yw’r gyfrinach i lwyddiant eich plentyn; mae presenoldeb da yn golygu 95% neu well.
Presenoldeb 90% = Presenoldeb Da? NA
Mae presenoldeb o 90% yn golygu bod plentyn wedi methu hanner diwrnod bob wythnos o’r flwyddyn ysgol!
Mae presenoldeb o 90% am 1 blwyddyn ysgol yn golygu bod plentyn wedi methu 4 wythnos o ysgol!!
Mae presenoldeb o 90% am 5 mlynedd yn golygu bod plentyn wedi methu hanner blwyddyn ysgol!!!!
CYRRAEDD YSGOL = CYRRAEDD POTENSIAL
Gwelliant bychan mewn presenoldeb = gwaha-niaeth mawr mewn cyrhaeddiad
Mae 175 o ddiwrnodau pob blwyddyn pan nad yw’r plant yn yr ysgol felly mae digon o gyfleoedd i gym-ryd gwyliau.
Os yw eich plentyn yn sal nid ysgol yw’r lle iddo/iddi. Ond mae rhai plant yn smalio salwch er mwyn peidio dod i’r ysgol. Trafodwch pwysigrwydd preseneoldeb a prydlondeb gyda’ch plentyn/plant fel nad oes angen i’r Swyddog Lles Addysg wneud hynny. Mae’r Swyddog Lles Addysg yno i gefnogi chi fel teulu fel yr ydym ni fel ysgol.
Cofiwch am ein polisi drws agored.
Os oes problem gyda prydlondeb neu presenoldeb dewch i’n gweld.
Mae’r isod yn amlygu effaith absenoldeb dros flwyddyn ysgol.
Presenoldeb Blwyddyn Ysgol, Nifer Diwrnodau, Nifer Wythnosau
90%, 19, 4
80%, 38, 8
70%, 57, 11.5
60%, 76, 15
Mae’r isod yn dangos yr amser y gellir ei golli dros flwyddyn trwy fod yn hwyr bob dydd.
5 munud yn hwyr bob dydd= Colli 3 diwrnod ysgol mewn blwyddyn
10 munud yn hwyr bob dydd= Colli 6.5 diwrnod ysgol mewn blwyddyn
15 munud yn hwyr bob dydd = Colli 10 diwrnod ysgol mewn blwyddyn
20 munud yn hwyr bob dydd = Colli 13 diwrnod ysgol mewn blwyddyn
30 munud yn hwyr bob dydd = Colli 19 diwrnod
Absenoldeb
Gwerthfawrogwn yn unol â pholisi'r ysgol eich bod yn llythyru neu yn ffonio'r ysgol cyn 9:30 pob bore i esbonio unrhyw absenoldebau dis-gyblion fel y gallwn ei gofnodi ar y gofrestr ysgol. Os na fyddwn yn derbyn eglurhad byddwn yn eich ffonio ac yn cysylltu gydag ein Swyddog Lles Addysg fydd yn eich llythyru, ffonio neu yn galw draw i drafod y sefyllfa.
Os yw presenoldeb eich mab / merch yn uwch nag 95% does dim i’w boeni amdano – os yw presenoldeb eich mab / merch rhwng 85% ac 94% byddwn yn cadw golwg ar y sefyllfa ond os yw presenoldeb eich mab / merch yn is nag 85% bydd y Swyddog Lles Addysg, Eleri Wyn Jones, yn cysylltu gyda chi yn ystod y tymor/blwyddyn.
Byddwn fel ysgol yn cloi y drws am 9:00 er mwyn sicrhau diogelwch ein disgyblion. Os fydd rhywun yn cyrraedd yn hwyr gofynnwn eich bod yn dod i’r brif fynedfa.
Clwb Gofal Cyn Ysgol/ Clwb Brecwast am Ddim
Mae’r Clwb Gofal Cyn Ysgol yn cychwyn am 8:00yb am gost o £1.00 y dydd ac mae angen trefnu lle a thalu amdano ar lein. Mae’r Clwb Brecwast am ddim yn cychwyn am 8:30y.b. gyd-a’r derbyniad olaf am 8:40y.b. er mwyn sicrhau amser i fwyta eu brecwast. Mae angen trefnu’r lle ar lein i hwn hefyd. Bydd y Clwb Brecwast yn gorffen am 8:50y.b.
Mae’r ddau glwb ar gael i unrhyw blentyn o’r dosbarth Derbyn i Flwyddyn 6.
Bydd y plant yn derbyn grawnfwyd oer, tost, llefrith a sudd ffrwyth.