Hafan > Newyddion > WOW, yr Her Cerdded i'r Ysgol
WOW, yr Her Cerdded i'r Ysgol

Rydym yn cymryd rhan yn WOW, yr Her Cerdded i'r Ysgol. Trwy cerdded/olwynio, beicio, sgwtera, neu Parcio a Cherdded i'r ysgol o leiaf unwaith yr wythnos, gall disgyblion ennill bathodyn ar ddiwedd pob mis!
Mae ein hysgol yn hyrwyddo teithio actif oherwydd mae'n helpu i gadw ein myfyrwyr yn hapus ac yn iach. Mae ymchwil yn dangos y gall bod yn actif helpu myfyrwyr i ganolbwyntio yn y dosbarth a chynyddu eu lefelau cyflawniad.
Trwy deithio’n actif, gall cymuned ein hysgol helpu i leihau nifer y cerbydau ar y ffyrdd o amgylch yr ysgol, gan ei gwneud yn fwy diogel i’r rhai sy’n cerdded ac yn beicio ac yn haws i drigolion. Mae llai o gerbydau yn golygu llai o lygredd aer gan arwain at aer glanach a helpu i frwydro yn erbyn newid hinsawdd.